Gwybodaeth i gwsmeriaid Cymraeg

We have included this page for the benefit of our Welsh speaking visitors to explain what britishgas.co.uk can do for you and how to contact us. Welcome to britishgas.co.uk.

Rydym wedi cynnwys y dudalen hon er lles ein ymwelwyr sy'n siarad Cymraeg ac i egluro beth y gall britishgas.co.uk wneud i chi a sut i gysylltu â ni. Croeso i britishgas.co.uk.

Fel cwsmeriaid a darpar gwsmeriaid British Gas sy'n siarad Cymraeg, efallai y dymunech wybod rhagor am ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

Cefndir

Ym 1996, ymrwymodd British Gas i roi'r un gwasanaeth o safon uchel i'w gwsmeriaid Saesneg a Cymraeg fel ei gilydd. O ganlyniad, rhodd y Bwrdd Iaith ei fendith ar ein polisi'r iaith Gymraeg.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Mae gan British Gas dîm Cymraeg ymroddedig wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Mae aelodau'r tîm yn siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am ymdrin ag unrhyw ymholiad yn Gymraeg.

Ein gwasanaethau

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yw:

  • Gwasanaeth ymholiadau ffôn (ar gael rhwng 8am ac 8pm dydd Llun i ddydd Gwener ac 8am i 6pm dydd Sadwrn)
  • Gwasanaeth ymholiadau ysgrifenedig
  • Cyngor cyffredinol ac arweiniad ar faterion ynni<
  • Trefnu biliau a gohebiaeth yn Gymraeg
  • Agor cyfrifon nwy a thrydan i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg
  • Ffôn testun i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg a sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw
  • Trefnu biliau yn Gymraeg mewn print bras, Braille neu "biliau sy'n siarad" lle bo angen

Sut i gysylltu â ni:

  • Ymholiadau ffôn: 0333 202 9630
  • Ymholiadau ffôn: 0333 202 9630

Yr Adran Gymraeg
British Gas
4 Sgwâr Callaghan
Caerdydd
CF10 5BT

Os nad yw British Gas yn cyflenwi eich eiddo, rhowch alwad i ni.