Gwybodaeth i gwsmeriaid Cymraeg

Rydym wedi cynnwys y dudalen hon er lles ein hymwelwyr sy'n siarad Cymraeg ac i egluro beth y gall britishgas.co.uk wneud i chi a sut i gysylltu â ni. Croeso i britishgas.co.uk.

Fel cwsmeriaid presennol British Gas ac i rai eraill posibl yn y dyfodol sy’n siarad Cymraeg, efallai y dymunwch wybod rhagor am ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

Cefndir

Ym 1996, penderfynodd British Gas rhoi safon uchel gyfartal i'w cwsmeriaid Saesneg a Chymraeg. O ganlyniad, rhoddodd Bwrdd Yr Iaith ei fendith i’n polisi iaith Gymraeg.

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Mae gan British Gas dîm Cymraeg ymroddedig wedi'i leoli yng Nghaerdydd. Mae aelodau'r tîm yn siaradwyr Cymraeg sy'n gyfrifol am ymdrin ag unrhyw ymholiad yn Gymraeg.

Ein gwasanaethau

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig yw:

  • Gwasanaeth ymholiadau ffôn (ar gael rhwng 9yb a 5yh o ddydd Llun i ddydd Gwener)
  • Gallu delio ac ymholiadau ynglŷn â’ch nwy a thrydan a hefyd eich Gwasanaethau Cartref
  • Gwasanaeth ymholiadau ysgrifenedig
  • Cyngor cyffredinol ac arweiniad ar faterion ynni a gwasanaethau
  • Trefnu biliau a gohebiaeth yn Gymraeg
  • Agor cyfrifon ynni a gwasanaethau i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg
  • Ffôn testun i'n cwsmeriaid sy'n siarad Cymraeg ac sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw
  • Trefnu biliau yn Gymraeg mewn print bras, Braille neu "biliau sy'n siarad" lle bo angen

Sut i gysylltu â ni:

  • Ymholiadau ffôn: 0333 202 9630

Os nad yw British Gas yn cyflenwi eich eiddo, ffoniwch ni.